criw compostio

croeso//welcome. ryda ni’n caru cynhyrchu a thrafod compost bendigedig o ddi-fawn a nid-er-elw, wedi ei wneud â llaw o wastraff bwyd a gwastraff gwyrdd

helô

criw compostio ydy ni a ryda ni’n trigo ym miosffer UNESCO Dyfi

rydym ni’n gwneud compost tywyll, cyfoethog a mwydionog, wedi ei wneud yn gyfan gwbl o wastraff lleol

rydym ni’n trysori’r biliynau o ficrobau sy’n cydweithio efo ni

ryda ni’n dawnsio ac ysgrifennu llythyrau caru i gorsydd, tomennydd ac alcemeg

ac fe allwch ddisgwyl llawer o fwydro am fadredd, mydryddu am bydredd, o sôn am gymuned a gofal

ar bapur ryda ni’n gwmni trin gwastraff bychan gwledig sy’n casglu o gaffis o fewn ein milltir sgwâr

yn lleihau milltiroedd gwastraff a llygredd

ac yn dosbarthu compost talwch-be-fedrwch chi yn lleol i unrhyw un sydd eisiau tyfu bwyd

ryda ni’n gwneud hynny yn ddiogel, yn foesegol ac efo urddas

ac

mae ein bio-gariad yn llifo ar draws ffiniau ac ieithoedd

o leoliadau gwledig i ddinesig

yn cydgysylltu newydd-ddyfodiaid ac arch-gompostiwyr

ryda ni’n caru'r farddoniaeth o drawsnewid gwastraff

yn rhyfeddu at y microsgopig

ac arogl dadelfeniad aeddfed a gofalgar

Ffyrdd i'n cefnogi

bag of compost

Ail‑gartrefu compost

Mae ein compost di-fawn, lleol, byw, nid-er-elw a wnaed-â-llaw wedi ei greu gyda gofal wastraff gwyrdd a gwastraff bwyd Machynlleth

food waste collection

casglu gwastraff bwyd

Os wyt ti’n bwydo Machynlleth galli di fwydo ein pridd hefyd

gyrra dy wastraff bwyd ymlaen, a helpa ni i greu pridd cyfoethocach, i dyfu llysiau iachach, i dorri milltiroedd gwastraff bwyd a lleihau lledaeniad nwyon tŷ gwydr

composting school round the table

Trefna hyfforddiant efo ni

Mae ein hyfforddiant yn cwmpasu technegau compostio ymarferol, cynllunio rheolaeth gwastraff cymunedol, ac archwiliadau mwy ymgorfforedig a throchedig o gapasiti trawsnewidiol pydredd a dadelfennu.

ffin and steph on bench laughing

Rhoi sgwrs/recordio podlediad/ darlithio

Ryda ni’n byw er mwyn archwilio dulliau atebol ac ystyrlon sy’n ymgysylltu ac addysgu pobl ar wastraff a chyfiawnder llygredd

Cysylltwch i drafod unrhyw anghenion sgyrsaidd

inside compost bag

Erthyglau

Am ddos rheolaidd o fwydro am fadredd, plymia mewn i’n herthyglau a’n podlediadau

composting school round the table

Cydweithio â Ni

Mae celf, gwyddoniaeth, ymchwil, a chydweithio compostaidd barddonol a throchedig i gyd wrth ein bodd. Cysylltwch os hoffech chi archwilio beth allen ni ei wneud gyda’n gilydd.

Er enghraifft: addysg ffurfiol ac anffurfiol; ymchwil; cyfiawnder amgylcheddol; croesdoriaedaeth; trawsddisgyblaethedd; ecolegau cwiar; dadgoloneiddiad; dad-dwf; dawnsio; cyfiawnder tir; ymarfer cyd-greadigol; dychymyg; celf-weithrediaeth; dweud stori a mwy