sut rydym yn cael ein hariannu

Sut ydym ni’n cael ein hariannu

Dydym ni ddim yn meddwl y dylai pridd hapus fod yn fraint i’r rhai sy’n medru talu.

Dyna pam fod ein compost ar gael i dyfwyr lleol ar sail talu-be-sy’n-teimlo’n-iawn-os-allwch-chi. Wrth ychwanegu compost fel taenfa i bridd blinedig sy’n gweithio’n galed, mae’n adfywio’r pridd a bydd y bwyd sy’n cael ei dyfu yn ei sgil yn fwy maethlon.

Cyfraniadau

Mae cyfran fechan o’n cyllid blynyddol yn dod o gyfraniadau a dderbynnir gan y tyfwyr sy’n defnyddio ein compost. Mae eu rhoddion yn cael eu plannu’n ôl yn ein gwaith compostio, i sicrhau amgylchedd gweithio diogel, a ffyniant ein cwmni bach.

Ryda ni’n sefydliad nid-er-elw. Does dim cyfranddeiliaid chwaith. Dim ond y math hynny o gyfranddeiliaid sy’n cytuno fod gan bawb gyfran mewn, ac yn elwa o briddoedd iach, cymdeithasau cyfiawn ac economïau adfywiol.

Grantiau

Mae’r mwyafrif o’n hincwm yn dod o Grantiau y byddwn yn eu derbyn am ein hymchwil a’n gwaith cyfathrebu - fel y Co-op Foundation sydd yn ein hariannu hyd 2027 i ddarganfod a rhannu sut mae gwneud compost gradd potio pukka di-fawn yn gyfan gwbl o wastraff. Rydym hefyd wedi elwa o grantiau gan y Loteri Genedlaethol a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y gorffennol.

Busnesau lleol.

Ryda ni’n caru’r busnesau lleol sy’n bartneriaid allweddol i ni. Maen nhw’n ein talu i gasglu a chompostio eu gwastraff bwyd, ac mae eu cyfraniadau yn ariannu cyflogau ein Gofalwyr Compost yn uniongyrchol. Diolch mawr i Siop Goffi’r Cranc Meddal, y Llew Coch, Gwen, Y Plas, Wynnstay, Dulas, Caffi Glyndŵr a Hwb y Taj yn benodol, ac i Lloyds Coaches sy’n darparu gofod gwerthfawr i ni yn eu buarth.

Celfyddydau a Hyfforddiant

Mae ein harfer celfyddydol gan gynnwys synhwyrfeydd compost a theithiau cerdded corsiog, a’n rhaglennau hyfforddiant fel yr Ysgol Compostio Cymunedol, yn ogystal â siarad gwadd oll yn dod ag incwm angenrheidiol a chaniatáu i ni gyrraedd, swyno a chefnogi ein compostistas, mawn-garwyr, addysgwyr a gweithredwyr.

Cyhoeddiadau a nwyddau

I gloi, mae incwm o gyhoeddiadau fel y Zine Daearffurfio a nwyddau eraill sydd wedi eu cynhyrchu yn gynaliadwy ac yn foesegol yn dod ac incwm anghyfyngedig fel y gallwn ddarparu cyfleoedd cyd-ddysgu, Offer Amddiffynnol Personol dibynadwy, a bisgedi a the bendigedig i’n gwirfoddolwyr gwych.

Bydd ein siop nwyddau microb-garwyr yn dod yn 2026, ond tan hynny cysylltwch os hoffech chi zine neu gompost trwy yrru e-bost at helo@criwcompostio.co.uk

cefnogwch ni

Mae ’na lawer i ofalu amdano fo

…a llawer i roi gofal diwedd oes iddo.

10 mlynedd yn ddiweddarach ac mae pennawd y Cenhedloedd Unedig yn datgan fod gennym ni hanner cant neu lai o gynaeafau ar ôl wrth i’n pridd gael ei ddiraddio. Mae gweithredu ar y cyd i ofalu am ac adfer ein pridd yn hanfodol os ydym ni am barhau i fwydo ein hunain ar fwy na slwj wedi ei dyfu mewn lab. Cyfunwch hynny efo ffrydiau gwastraff sydd allan o reolaeth, lle, er enghraifft, mae 8-10% o fwyd y byd yn cael ei wastraffu, ac yn cael ei yrru i gladdfeydd sbwriel sy’n allyrru nwyon tŷ gwydr, neu dreulwyr anaerobig sy’n llygru’r aer, a gwenwyno cymunedau incwm isel lleol. Yn y cyfamser mae mewndiroedd hynafol yn cael eu dinistrio’n ddiangen i ategu at gompost marwaidd.

Dyma rai o’r rhesymau pam ein bod angen ffatrïoedd pridd cymunedol , i greu rhwydwaith o gompostwyr grymus sy’n gwneud compost di-fawn, rhydd o gemegion, biolegol fywiog, sy’n cyfoethogi’r pridd, ac sydd wedi ei wneud o wastraff planhigion a bwyd lleol.   

Ryda ni ar dân i helpu eraill i ddarganfod datrysiadau i gwestiynau pydredig, sy’n addas a phenodol ac addas i’w bro a’i hardal. I ailgysylltu efo’r tir, i’r myrddiynau microsgopig ac i dyfu mwy o fwyd maethlon wrth warchod mawndiroedd ac ymdrin yn gyfrifol efo gwastraff.

Ac mi ryda ni eisio gwneud y gwaith gofal sy’n waith gwastraff yn waith gweledol, eisiau iddo gael ei werthfawrogi, a’i wneud yn fusnes i bawb.

Ymunwch efo’n cefnogwyr rheolaidd

Gall eich cyfraniad misol ein helpu ni i ddod a straeon am ofal pridd i chi; hyfforddiant mewn person, digwyddiadau celf unigryw, a chaniatáu i fwy a mwy ohona ni feithrin ein pridd yn ôl i iechyd. Cyfrannwch werth awr o’ch cyflog misol – neu beth bynnag allwch chi ei fforddio – heddiw.

Gall eich rhodd hefyd weithredu fel ‘dana’, neu daliad-i’w’ basio-ymlaen er mwyn i chi neu eraill dderbyn ein compost bio-feddygyniaethol.

Os hoffech chi roi dogn o ofal-compost-trwy-weithredu-cymunedol yn rhodd i’ch car a’ch cerydd, cysylltwch, mae gennym ni becynnau rhodd hyfryd sy’n cynnwys taleb rhodd a’n Zine Daearffurfio, am £10 yn unig.

Awydd ymuno?

Anfonwch e-bost at helo@criwcompostio.co.uk i sefydlu taliad rheolaidd neu untro, ac i brynu Taleb Rhodd neu Zine.