Polisi Iaith Gymraeg criw compostio


Mae criw compostio yn gweithredu mewn gwlad ddwyieithog ac yn ceisio dathlu'r iaith Gymraeg.
Rydym wedi gosod y nod i ni ein hunain o gynnig ein holl weithgareddau addysgu ac ymgysylltu yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn 2028, ac yn y cyfamser byddwn bob amser yn:

  • Postio ar gyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog.
  • Creu posteri, taflenni a gwefan ddwyieithog.
  • Defnyddio arwyddion a dogfennau dwyieithog.
  • Croesawu pobl yn Gymraeg mewn cyfarfodydd a digwyddiadau.
  • Annog ein staff a’n gwirfoddolwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Darparu cyfleoedd i roi adborth yn y ddwy iaith.

Rydym am i'r Gymraeg a'r Gymreictod gael eu hymgorffori ym mhopeth a wnawn.