gallwn gasglu eich gwastraff bwyd masnachol
Os yda chi’n bwydo Machynlleth, mi allwch chi fwydo ein pridd ni hefyd
Ymunwch efo ni, trosglwyddwch eich gwastraff, a helpwch ni i greu pridd cyfoethocach ar gyfer Machynlleth. Nid yn unig hynny, ond byddwch yn helpu i dyfu llysiau iachach, ac i dorri milltiroedd gwastraff bwyd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Ac fe allwch chi ymlacio, gan eich bod yn dewis nid yn unig y ffordd fwyaf ecolegol i ddelio efo gwastraff, ond un sy'n drwyddedig hefyd. Ryda ni wedi ein trwyddedu efo Cyfoeth Naturiol Cymru fel cludydd a rheolwr gwastraff a chompostiwr.
ARDYSTIEDIG
cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff unwaith neu ddwywaith yr wythnos efo ni, a byddwch yn derbyn:
- Tystysgrif i dystio eich bod yn rheoli gwastraff yn lleol i safonau moesol, cymdeithasol ac amgylcheddol uchel.
- Datganiad blynyddol yn dangos y cyfaint o wastraff ydych chi wedi ei atal rhag teithio pellteroedd mawrion i safleoedd a allai fod yn cynhyrchu llygredd uchel, ac i ddangos faint o gompost yda ni wedi ei gynhyrchu gyda’n gilydd.