polisi amgylcheddol


Nid gwneud compost yn unig yda ni yma — mae’n gwaith ni’n cynnwys meithrin pridd, pobl a bodau mwy-na-dynol, a chreu dyfodol cynaliadwy i bawb. Mae ein dull o weithio yn ein cymell i weithredu’n feiddgar i ofalu am y byd o’n cwmpas, a chael effaith gadarnhaol ar ein planed a’n cymunedau.


1. Ryda ni'n Parchu Natur

Byd natur yw’r athro gorau, a’n hadnodd mwyaf gwerthfawr. Mae criw compostio wedi ymroi i barchu a chefnogi’r byd naturiol. Ryda ni’n cydnabod ein bod yn rhan o ecosystem ehangach, ac yn ymdrechu i fyw mewn cytgord efo popeth.


2. Ryda ni'n Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu

Bûm yn byw yn gynnil, gynnil. Hanfod gwaith criw compostio yw newid y ffordd yda ni’n edrych ar ‘wastraff’. Felly yn amlwg, yn ogystal â’n gwaith craidd o gompostio, ryda ni hefyd wedi ymroi i leihau ein hôl troed amgylcheddol trwy leihau gwastraff, ail-ddefnyddio deunyddiau, ac ailgylchu pan fo hynny’n opsiwn. Ryda ni’n credu yng ngrym compostio i drawsnewid gwastraff yn adnodd gwerthfawr i’n gerddi a’n cymunedau.


3. Ryda ni’n eiriol dros arferion cynaliadwy

Mae criw compostio wedi ymroi i eiriol dros arferion cynaliadwy ym mhob agwedd o’n gwaith, o gywain deunyddiau i reoli gweithredoedd. Ryda ni’n blaenoriaethu opsiynau lleol, organig, ac amgylcheddol adfywiol bob tro.


4. Ryda ni’n diogelu bioamrywiaeth

Ryda ni’n cydnabod pwysigrwydd cynnal a diogelu bioamrywiaeth yn ein cymunedau. Ryda ni wastad yn meddwl am sut y gallwn wneud mwy i hybu planhigion cynhenid, cefnogi adfer cynefin, ac adfywio ecosystemau.


5. Ryda ni’n addysgu ac ysbrydoli

Mae gwybodaeth yn rym. Ryda ni wedi ymroi i addysgu ac ysbrydoli ein cymuned i weithredu dros yr amgylchedd. Trwy gyfrwng gweithdai, digwyddiadau a digwyddiadau estyn allan, ryda ni’n ymbweru unigolion i wneud dewisiadau cynaliadwy, ac i ddod yn geidwaid gofalgar o’r ddaear.


6. Ryda ni'n Arwain trwy esiampl

Mae’n rhaid gwneud yn lle dim ond deud. Mae criw compostio yn arwain trwy esiampl, gan ddangos ein hymroddiad i stiwardiaeth amgylcheddol ym mhob agwedd o’n gwaith. Ryda ni’n anelu i fod yn fodel o gynaladwyedd i’n cymuned, gan obeithio ysbrydoli eraill i ddilyn ein hesiampl.


7. Ryda ni’n addasu ac arloesi

Ryda ni’n wynebu’r newid sy’n dyfod a’r newid sydd yma eisoes. Ryda ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd i arloesi ac addasu i newidiadau amgylcheddol, cwymp bioamrywiaeth a’r argyfwng hinsawdd. Ryda ni’n agored i syniadau, technolegau ac arferion newydd sy’n caniatáu adfywiad a gwydnwch.


8. Ryda ni i gyd yn yr un sefyllfa

Ryda ni’n cydnabod ein bod ni i gyd yn yr un sefyllfa, ac mae ein brwydr NI yw hon. Ryda ni’n credu mewn gweithredu ar y cyd, ac mewn gofal dwfn i greu newid positif i’n planed, ac i genedlaethau’r dyfodol