hyfforddiant

Dos oddi yma yn hyderus ac yn barod i ymgodymu a’r pethau mawrion

Mae’n hyfforddiant yn cynnig amrywiaeth o sesiynau:

  • O awren gryno i gyrsiau aml-ddiwrnod hynod ymarferol am fethodolegau compostio
  • Gweithio efo unigolion brwdfrydig neu grwpiau cymunedol sydd eisiau gweithio ar sgêl
  • O weminarau i sesiynau mewn person ymarferol ar adeiladu prosiectau
  • O weithdai microsgop i ddysgu ymgorfforedig a dawnsio mewn corsydd
  • Yr holl ffordd i archwiliadau ymdrochol, artistig a pherfformiadol, yn edrych ar allu pydredd ac ailffurfiad i drawsnewid a iachau

Ryda ni’n ceisio cynnig gymaint â phosib o’n hyfforddiant am ddim, neu efo cymhorthdal sylweddol, trwy arian grant. Er enghraifft, ariannodd  Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yr Ysgolion Compostio Cymunedol yn 2024. Byddwn yn gwneud cais am fwy o arian i ail-redeg yr ysgolion yn 2026-27 unwaith bydd y ffenestr gyflwyno wedi ail-agor.

Angen hyfforddiant? Cysyllta trwy e-bostio helo@criwcompostio.co.uk

Gallwn greu hyfforddiant wedi ei bersonoli i ateb eich anghenion a’r amser sydd gennych ar gael.

hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth a’r cae

composting school round the table

Ysgol Compostio Gymunedol

Mae ein Hysgol Compostio Gymunedol yn gwrs deuddydd poblogaidd, sy’n ffordd effeithiol o gynyddu eich sgiliau eich hun a sgiliau’r gymuned a dysgu sut i gynllunio, cyllidebu, mewnosod a rheoli cynllun cymunedol.

Gwneud Compost yn Gyfrifol

Gwella’ch medrau rhifedd wrth gyfrifo’r rhifau pwysig mewn compost – megis cyfaint, lle, cynhwysion a chyfnodau.
Mae’n ffordd wych i gyfrifo a bod yn hyderus bod yr holl ffigurau’n cyfateb, fel na fyddwch chi’n teimlo’n ormodol na cholli’r mewnbynnau hanfodol.

Tu Hwnt i gompostio Cymunedol

Ffordd o helpu dy gymuned i gyd-feddwl tu hwnt i’r domen, gan freuddwydio breuddwydion pydredig am gyfiawnder cymdeithasol, cydlyniad cymunedol, a newid.

Pridd a chompost pob dydd Iau yn Cultivate

Wedi ei gynnal dros gyfnod o 6 mis, efo sesiynau galw mewn pob dydd Iau, fe wnaethom gydweithio efo Cultivate i greu tymor o sesiynau ymarferol, technegol a hwyliog ar gompostio.