amdanom ni

credwn fod compostio yn waith pwysig,

yn waith ymwybodol,

yn waith gofal

rydym yn falch o'n gwreiddiau

Ganed ni o’r rhuthr am aur du a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod clo; roedd ein cymuned wledig angen mynediad at gompost fforddiadwy o safon.

Ar bapur, ryda ni’n gwmni trin gwastraff bychan gwledig sy’n casglu gwastraff o fusnesau bwyd lleol, gan leihau llygredd a milltiroedd gwastraff bwyd, a gan ddosbarthu compost talwch-be-fedrwch chi yn lleol i unrhyw un sydd eisiau tyfu bwyd

Ond ryda ni’n gweld ein gwaith fel llawer mwy na hynny. Mae ein gwaith yn rhaeadru ar draws ffiniau ac ieithoedd, o leoliadau gwledig i ddinesig, a rhwng newydd-ddyfodiaid ac arch-gompostwyr.

Ryda ni’n caru’r farddoniaeth mewn trawsnewidiad gwastraff, yn dotio at y microsgopig ac yn gwirioni ar arogl dadelfeniad aeddfed a wnaed â gofal.

Ymunwch â'n criw

Mae gwneud compost yn cymryd amser a gofal, a gall fod yn destun llawenydd pan mae wedi ei wneud ar y cyd, neu’n broses feddylgar o’i wneud o dy hun.

Os hoffet ti gwrdd â’r compost, a chompostwyr eraill i faeddu dy ddwylo, i droi'r domen neu er mwyn dysgu chwaneg am y bydoedd hudolus oddi tanodd, yna rho dy fanylion i lawr er mwyn derbyn gwybodaeth am ein sesiynau gwirfoddoli rheolaidd

Ryda ni’n treulio amser gyda’n gilydd er mwyn dysgu ar y domen, wrth y microsgop, neu mewn stafell ddosbarth anffurfiol. Ryda ni’n rhannu celfyddyd compostio a gwyddor gwe fwyd y pridd, yn ogystal â dathlu’r haf trwy stondinau marchnad a digwyddiadau fel sioeau amaethyddol.

Os hoffet ti glywed mwy am ein sesiynau gwirfoddoli neu’n digwyddiadau cymdeithasol, neu os oes gen ti syniad am ffordd o gydweithio neu gais am gyllid y gallem ni ei wneud ar y cyd, yna cysyllta - mi fase ni wrth ein boddau’n clywed gen ti.

gyrra e-bost at helo@criwcompostio.co.uk i sgwrsio ymhellach


sut rydym wedi ein trefnu

Rheoleiddio

Ryda ni wedi'n trwyddedu efo Cyfoeth Naturiol Cymru fel cludydd gwastraff micro, rheolwr gwastraff a chompostiwr.

 

Talu

Ryda ni’n falch o fedru talu ymhell dros y Cyflog Byw i’n cyflogai a chontractwyr, a’n bod yn talu mwy na’r gyfradd arferol i weithwyr gwastraff. rydym yn ymwybodol fod y gwaith hwn yn medru bod yn anodd ac yn gorfforol ar brydiau, ac y gall fod yn beryglus, a bod ein gweithwyr yn haeddu urddas, dillad amddiffynnol safonol a safonau iechyd a diogelwch effeithiol, bob amser.

Ryda ni’n ariannu cyflog ein Gofalwyr Compost yn uniongyrchol allan o’r incwm casglu gwastraff gan fusnesau lleol, wedi ei atodi gan gyfraniadau yda ni’n ei dderbyn am y compost ei hun, felly os yda chi’n rhan o’r gadwyn honno, ryda chi’n creu swydd yn lleol - diolch!

 

Cyfarwyddwyr

Ami Wilson

Chris Higgins

Ella Hernon

ffin Jordão

Pete Stewart

Steph Robinson

 

Cyfreithiol

Ers Mehefin 2024 ryda ni wedi bod yn gwmni nid-er-elw wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr fel criw compostio cyf. gyda rhif Tŷ'r Cwmnïau 15738355, a’r cyfeiriad cofrestredig yw Forestry Hub Hyb Coedwigaeth, Unit 1, Dyfi Eco Parc, Machynlleth, Powys SY20 8AX

Hawlfraint 2025 – cedwir pob hawl gan criw compostio cyf.