prosiectau

compost potio di-fawn

Dros y ddwy flynedd a hanner nesa, ein prif flaenoriaeth yw archwilio compost di-fawn wedi ei wneud yn gymunedol - a dim ryw gompost diddrwg didda, ond y greal sanctaidd, cymysgedd potio dibynadwy ar gyfer tyfwyr proffesiynol, wedi ei wneud yn gyfan gwbl o wastraff lleol. Mi adawn ni’r mawn yn y gors lle mae o i fod.

mynd i gors

Stwmps, barddoniaeth, gwrachod corslyd a 6 medr o amser dwfn, cynnwys pnawn ar Gors Fochno.

Daearffurfio Zine

Ein cilgnoadwaith barddonol ar bethau’r domen.

Efo darluniau prydferth, yn greadigol o ddwyieithog, ac ar gael i’w archebu rŵan

Podlediad Pridd

Mae’r pridd yn ein dysgu fod cylchdroadau yn barhaus, a hyd yn oed mewn dirywiad mae pob diwrnod yn cynnig cyfleoedd am ddechreuadau newydd.

y tu hwnt i gompostio cymunedol

I ble’r awn ni nesa? Beth arall allwn ni ei wneud? Beth yda ni’n ei fethu? Ar bwy nad yda ni’n gwrando?

llestri gweini compostadwy?

Ydy o wir? Mae gennym ni ein amheuon...

Compost a Phridd Dydd Iau

6 mis yn creu cymuned, gwybodaeth a safle arddangos compostio addas i ymwelwyr efo’n cyfeillion yn Cultivate yn y Drenewydd.

Ysgol Gompostio Gymunedol

Roedd yr ymateb i’n hysgol Gompostio Gymunedol yn epig. Ryda ni’n llawn cyffro am yr holl egin-gynlluniau compostio cymunedol sy’n ymffurfio o ganlyniad.

Gwneud i Gompost Gyfrif

Compostio’n cwrdd â sgiliau rhifyddeg yn y dosbarth a’r ardd. Mae wastad am fwy na rhifau, ac mae rhifau’n ddefnyddiol wrth feddwl am systemau rheoli gwastraff.

cyllid sbarduno

Sut y bu i’r Gronfa Ffyniant a Rennir feithrin ein twf cynnar.

Gwerth ei ddarllen os yda chi’n ystyried sefydlu eich prosiect compostio cymunedol eich hunain.